OpenOffice.org 3.3 Darlennwch Fi

Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i http://www.openoffice.org/welcome/readme.html

Mae'r ffeil yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynghylch y rhaglen hon. Darllenwch y wybodaeth yn ofalus iawn cyn cychwyn gweithio.

Hoffai cymuned OpenOffice.org, sy'n gyfrifol am ddatblygiad y cynnyrch hwn eich gwahodd i gymryd rhan fel aelod cymunedol. Fel defnyddiwr newydd, ewch i safle OpenOffice.org am wybodaeth defnyddiwr defnyddiol yn http://www.openoffice.org/about_us/introduction.html

Darllenwch hefyd yr adrannau isod ynglŷn ag ymuno â phroject OpenOffice.org

Ydy OpenOffice.org wir yn rhydd ar gyfer unrhyw ddefnyddiwr?

Mae OpenOffice.org yn rhydd ac yn rhad ar gyfer pawb. Gallwch gymryd y copi yma o OpenOffice.org a'i osod ar gynifer o gyfrifiaduron ag yr hoffech chi a'i ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas (gan gynnwys defnydd masnachol, llywodraeth, busnes, addysg a phersonol). Am fanylion pellach darllenwch y drwydded sy'n dod gyda OpenOffice.org neu http://www.openoffice.org/license.html

Pam fod OpenOffice.org yn rhydd ar gyfer unrhyw ddefnyddiwr?

Gallwch ddefnyddio'r copi yma o OpenOffice.org heddiw, am ddim, oherwydd bod cyfranwyr unigol a noddwyr masnachol wedi cynllunio, datblygu, profi cyfieithu, dogfennu, cefnogi, masnachu a chynorthwyo mewn llawer o ffyrdd i wneud OpenOffice.org yr hyn ydyw heddiw - prif feddalwedd cod agored y byd.

Os ydych yn gwerthfawrogi eu hymdrechion, ac am sicrhau fod OpenOffice.org yn parhau i'r dyfodol, ystyriwch gyfrannu i'r cynllun, gw.http://contributing.openoffice.org am fanylion. Mae gan bawb gyfraniad i'w wneud.

Nodiadau Gosod

Anghenion y System

Mae yna ystod eang o ddosbarthiadau o Linux, ac o fewn yr un dosbarthiad ceir dewisiadau gosod gwahanol (KDE neu Gnome),ag ati) Mae rhai dosbarthiadau yn cael eu dosbarthu gyda fersiwn 'cynhenid' o OpenOffice.org, sydd â nodweddion gwahanol i'r fersiwn OpenOffice.org Cymunedol hwn. Weithiau gallwch osod y fersiwn Cymunedol o OpenOffice.org wrth ochr y fersiwn 'cynhenid'. Er hynny, mae fel arfer yn fwy diogel i dynnu'r fersiwn 'cynhenid' cyn gosod y fersiwn Cymunedol. Darllenwch y ddogfennaeth am fanylion ar sut i wneud hynny.

Argymellir eich bod yn gwneud copi wrth gefn o'ch system cyn tynnu neu osod meddalwedd.

Gwnewch yn siŵr od gennych ddigon o gof rhydd yng nghyfeiriadur dros dro eich system a bod hawliau darllen, ysgrifennu a rhedeg wedi eu rhoi. Caewch bob rhaglen arall cyn cychwyn gosod.

Anghydawsedd Cronfa Ddata Estyniadau

Mae peiriant cronfa ddata Berkeley wedi cael ei ddiweddaru yn y fersiwn yma o OpenOffice.org. Mae diweddariad peiriant cronfa ddata yn cyflwyno anghydnawsedd gyda data defnyddwyr estyniadau OpenOffice.org sydd wedi eu gosod cyn 3.2 fydd efallai angen sylw os fyddwch yn mynd yn ôl i fersiwn blaenorol o OpenOffice.org.

Bydd y fersiwn yma o OpenOffice.org yn trosi eich cronfa ddata estyniadau i fformat newydd cronfa ddata newydd Berkeley pan fydd estyniadau yn cael eu gosod neu eu tynnu. Ar ôl y trosi hwn ni fydd modd darllen y gronfa ddata gan fersiynau blaenorol o OpenOffice.org. Bydd ngosod fersiwn blaenorol yn achosi gosodiad camweithredol.

Os ydych am fynd yn ôl i fersiwn blaenorol o OpenOffice.org, rhaid tynnu'r cyfeiriadur data defnyddiwr {user data}/uno_packages, for example ~/.openoffice.org/3/user/uno_packages,ac ailosod pob estyniad.

Anawsterau wrth Gychwyn y Rhaglen

Os ydych yn profi anawsterau cychwyn OpenOffice.org (yn bennaf wrth ddefnyddio Gnome) dadosodwch amrywiolyn amgylcheddol SESSION_MANAGERo fewn y gragen rydych yn ei ddefnyddio i gychwyn OpenOffice.org. Mae modd gwneud hyn drwy ychwanegu'r llinell "unset SESSION_MANAGER" i gychwyn sgript cragen soffice sydd yng gnyfeiriadur "[office folder]/program".

Mae anawsterau cychwyn OpenOffice.org (e.e. rhaglen yn oedi) yn ogystal â phroblemau gyda'r sgrin fel rheol yn cael eu creu gan yrrwr y cerdyn graffeg. Os yw'r problemau hyn yn codi diweddarwch yrrwr eich cerdyn graffeg neu ddefnyddio'r gyrrwr sy'n nghlwm wrth eich system weithredu. Mae modd datrys anawsterau dangos gwrthrychau 3D drwy ddiffodd y dewis "Defnyddio OpenGL" yn 'Offer - Dewisiadau - OpenOffice.org - Golwg - Golwg 3D'.

Allweddi Llwybr Byr

Dim ond bysellau (cyfuniad bysellau) nad ydynt yn cael eu defnyddio gan y system weithredu mae modd eu defnyddio yn OpenOffice.org. Os nad yw cyfuniad bysellau'n gweithio fel y disgrifir yn Cymorth OpenOffice.org, gwiriwch fod y llwybr byr yn cael ei ddefnyddio eisoes gan y system. I gywiro'r gwrthdaro, mae modd newid y bysellau neilltuwyd gan eich system weithredu. Fel arall, mae modd newid bron unrhyw un o fysellau neilltuwyd ganOpenOffice.org. Am ragor o wybodaeth ar y pwnc, ewch i Cymorth OpenOffice.org neu ddogfennaeth Cymorth eich system weithredu.

Cloi Ffeiliau

Mae cloi ffeiliau wedi ei alluogi fel rhan o OpenOffice.org. Ar rwydwaith sy'n defnyddio'r Network File System protocol (NFS), rhaid i'r daemon cloi ar gyfer clientiaid NFS fod yn weithredol. I atal cloi ffeiliau, golygwch y sgript soffice a newid y llinell "export SAL_ENABLE_FILE_LOCKING" to "# export SAL_ENABLE_FILE_LOCKING". Os ydych yn atal cloi ffeiliau, ni fydd mynediad ysgrifennu dogfen wedi ei gyfyngu i'r defnyddiwr agorodd y ddogfen y lle cyntaf.

Rhybudd: Mae'r nodwedd cloi ffeiliau yn medru achosi anawsterau gyda Solaris 2.5.1 a 2.7 mewn cysylltiad â Linux NFS 2.0. Os yw eich system yn meddu'r paramedrau hyn, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn peidio defnyddio cloi ffeiliau. Fel arall, bydd OpenOffice.org yn atal wrth i chi geisio agor ffeil o gyfeiriadur gosodedig NFS ar gyfrifiadur Linux.

Nodiadau Hygyrchedd Pwysig

Am wybodaeth am nodweddion hygyrchedd OpenOffice.org, gweler http://www.openoffice.org/access/

Cofrestru

Cymrwch ychydig o amser i lanw'r broses Cofrestru Cynnyrch byr wrth i chi osod y feddalwedd. Er bod cofrestru'n ddewisol, rydym yn eich annog i gofrestru gan fod y wybodaeth yn galluogi'r Gymuned i greu meddalwedd gwell ac ateb anghenion y defnyddiwr yn uniongyrchol. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae Cymuned OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat. Os aethoch heibio i'r cofrestru wrth osod y feddalwedd, mae modd dychwelyd a chofrestru ar unrhyw adeg drwy ddewis "Cymorth > Cofrestru" o'r brif ddewislen.

Arolwg Defnyddiwr

Mae yna hefyd Arolwg Defnyddiwr ar-lein hoffwn eich annog i'w lanw. Mae canlyniadau'r Arolwg Defnyddiwr yn cynorthwyo OpenOffice.org i symud ynghynt wrth osod safonau newydd ar gyfer creu'r genhedlaeth nesaf o raglenni swyddfa. Drwy ein Polisi Preifatrwydd, mae OpenOffice.org yn cymryd pob gofal i ddiogelu eich data preifat.

Cefnogaeth i Ddefnyddwyr

Mae'r brif dudalen cefnogaeth http://support.openoffice.org/ yn cynnig amryw o bosibiliadau ar gyfer derbyn cymorth gyda OpenOffice.org. Efallai bod eich cwestiwn eisoes wedi ei ateb - edrychwch yn y Fforwm Cymunedol yn http://user.services.openoffice.org neu chwilio archifau rhestr e-bostio 'users@openoffice.org' yn http://www.openoffice.org/mail_list.html. Fel arall, mae modd anfon cwestiwn at users@openoffice.org. Mae sut mae tanysgrifo i'r rhestr (er mwyn cael ateb drwy'r e-bost)yn cael ei esbonio ar y dudalen hon: http://wiki.services.openoffice.org/wiki/Website/Content/help/mailinglists.

Za podršku unutar zajednice OpenOffice.org korisnika u Srbiji posetite http://sr.openoffice.org/podrska.html . Dopisna lista na srpskom jeziku je dostupna na e-adresi users@sr.openoffice.org. Posetite prethodnu stranicu da saznate o pretplati na listu i pretražite javno dostupnu arhivu.

За подршку унутар заједнице OpenOffice.org корисника у Србији посетите http://sr.openoffice.org/podrska.html . Дописна листа на српском језику је доступна на е-адреси users@sr.openoffice.org. Посетите претходну страницу да сазнате о претплати на листу и претражите јавно доступну архиву.

Gwiriwch yr adran FAQ yn http://wiki.services.openoffice.org/wiki/Documentation/FAQ.

Adrodd Gwallau a Materion

Mae Gwefan OpenOffice.org yn cynnal IssueZilla, ein peirianwaith ar gyfer adrodd ar , dilyn a datrys gwallau a materion. Rydym yn annog pob defnyddiwr i deimlo'n rhydd a bos croeso i adrodd ar faterion sy'n codi ynghylch eich problem benodol. Mae adrodd egniol yn un o'r prif gyfraniadau gall cymuned ddefnyddwyr ei wneud ar gyfer datblygiad parhaus a gwelliant parhaol casgliad rhaglenni OpenOffice.org.

Ymuno

Hoffai Cymuned OpenOffice.org fanteisio ar eich ymwneud gweithgar yn natblygiad y project cod agored hwn.

Fel defnyddiwr, rydych eisoes yn rhan werthfawr o ddatblygiad y pecyn a hoffwn eich annog yn gryf i gymryd mwy o ran gyda golwg ar fod yn gyfranogwr tymor hir i'r gymuned. Ymunwch a darllenwch dudalennau defnyddwyr yn:http://www.openoffice.org

Sut i Gychwyn

Y ffordd orau i gyfrannu yw drwy danysgrifio i un neu fwy o'r rhestr e-bostio am gyfnod, ac yn raddol ddefnyddio'r archifau e-bost i ddod i adnabod yr amryw o destunau sydd wedi eu trin ers i god ffynhonnell OpenOffice.org gael ei ryddhau nôl yn Hydref 2000. Pan rydych yn barod, dim ond anfon e-bost o gyflwyniad ac ymuno! Os ydych yn gyfarwydd â Phrojectau Cod Agored, ewch i'n rhestrau To-do a gweld os oes yna rywbeth hoffech chi gynnig helpu gydag ef.http://development.openoffice.org/todo.html.

Tanysgrifo

Dyma rai o restrau e-bostio'r Project gallwch danysgrifio iddynt yn http://www.openoffice.org/mail_list.html

Ymuno ag un neu fwy o'r Projectau

Mae modd i chi wneud cyfraniad sylweddol i'r project cod agored pwysig hwn hyd yn oed os mai dim ond profiad bychan o gynllunio meddalwedd neu godio sydd gennych. Ie, chi!

Yn http://projects.openoffice.org/index.html cewch ddod o hyd i brojectau yn ymestyn o Leoleiddio, Portio a Grwpwar i brojectau codio sylfaenol iawn. Os nad ydych yn ddatblygwr, ewch at y Project Dogfennaeth neu Farchnata. Mae'r Project Marchnata OpenOffice.org yn defnyddio dulliau guerilla a thechnegau marchnata traddodiadol i farchnata cynnyrch cod agored, ac rydym yn ei wneud ar draws ffiniau ieithoedd a diwylliannau, felly gallwch helpu drwy son am y gwaith a dweud wrth eich ffrindiau am y rhaglen.

Gallwch helpu drwy ymuno a'r Rhwydwaith Marchnata Cyfathrebu a Gwybodaeth yma: http://marketing.openoffice.org/contacts.html lle gallwch gynnig pwynt cyfathrebu gyda'r wasg, cyfryngau, asiantaethau'r llywodraeth, ymgynghorwyr, ysgolion, Grwpiau Defnyddwyr Linux a datblygwyr yn eich gwlad a'ch cymuned leol.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau gweithio gyda OpenOffice.org 3.3 ac y gwnewch ymuno gyda ni ar-lein.

Cymuned OpenOffice.org

Cod Ffynhonnell Defnyddwyr / Addaswyd

Portions Copyright 1998, 1999 James Clark. Portions Copyright 1996, 1998 Netscape Communications Corporation.